#

 

 

 

 


Briff Ymchwil:

Deiseb P-05-730

Teitl y ddeiseb: Cyllid ac Ariannu Llywodraeth Leol

Rydym yn galw ar Gynulliad Cenedlaethol Cymru i annog Llywodraeth Cymru i:

a. Gynyddu cyfanswm cyllid (refeniw) allanol i awdurdodau lleol i o leiaf y lefelau hynny a oedd yn berthnasol yn 2013/14 mewn termau real.

b. Cyflwyno deddfwriaeth a fyddai’n darparu ‘pŵer cymhwysedd cyffredinol’ i awdurdodau lleol yng Nghymru.

c. Annog awdurdodau lleol i ddefnyddio eu pwerau presennol i ddarparu nwyddau a gwasanaethau i rannau eraill o’r sector cyhoeddus yng Nghymru, ac i ymchwilio a masnachu drwy ddatblygu amrywiaeth o nwyddau a gwasanaethau y gellir eu cyflenwi i’r cyhoedd yn gyffredinol ac i’r sector preifat yn fwy cyffredinol.

d. Gweithio gydag awdurdodau lleol yng Nghymru i ryddhau ffrydiau refeniw presennol drwy, er enghraifft, ailariannu neu ddisodli cynlluniau PFI ar delerau mwy ffafriol, gan ddefnyddio’r cyfleoedd a gynigir gan gyfraddau llog hanesyddol isel.

e. Ymgymryd â chefnogi gwaith y Comisiwn Annibynnol Materion Ariannol Llywodraeth Leol Cymru

Rydym ni sydd wedi llofnodi isod yn gweld gwerth y gwasanaethau a ddarperir gan gynghorau lleol yng Nghymru, ac rydym o’r farn, drwy weithredu’r camau hyn y gall Llywodraeth Cymru helpu i atal difrod pellach i ddarpariaeth gwasanaethau cyhoeddus yn lleol; er, rydym yn cydnabod fod y camau hyn yn ddim ond rhan o’r ateb, ac y bydd angen rhoi terfyn ar raglen galedi Llywodraeth San Steffan i sicrhau y gall gwasanaethau cyhoeddus gael eu hariannu mewn ffordd gynaliadwy a digonol yn y dyfodol.

 

1. Cyflwyniad

Llywodraeth Leol yw un o'r Prif Grwpiau Gwariant (MEG) mwyaf i Lywodraeth Cymru ac yn y gyllideb ddiwethaf, derbyniodd y gwariant ail uchaf ar ôl y MEG Iechyd, Llesiant a Chwaraeon. Mae awdurdodau lleol yn derbyn y rhan fwyaf o'u cyllid gan Lywodraeth Cymru trwy'r setliad llywodraeth leol.

Fel y disgrifiwyd yn adroddiad Swyddfa Archwilio Cymru Cydnerthedd ariannol awdurdodau lleol yng Nghymru 2015-16, ers 2010 mae llywodraeth y DU wedi lleihau gwariant ar wasanaethau cyhoeddus fel rhan o'i chynlluniau i leihau'r diffyg yn y DU. Mae hyn yn ei dro wedi arwain at gyllidebau is ar gyfer Llywodraeth Cymru, ac yn golygu bod cyfanswm y Cyllid Allanol ar gyfer awdurdodau lleol wedi gostwng bob blwyddyn ers 2010.

2. Cyfanswm y Cyllid Allanol (refeniw) mewn awdurdodau lleol

Cyfanswm y Cyllid Allanol (AEF) yw'r enw a roddir i'r arian a ddosberthir gan Lywodraeth Cymru trwy'r setliad. Mae hyn hefyd yn cynnwys trethi annomestig a ailddosbarthwyd.

Mae awdurdodau lleol yn derbyn y rhan fwyaf o'u cyllid refeniw drwy'r Setliad Llywodraeth Leol, ac mae hyn yn cael ei gyhoeddi bob blwyddyn yn dilyn cyhoeddi'r gyllideb. Mae Llywodraeth Cymru yn darparu tua 80% o'r arian a ddyrennir i awdurdodau lleol. Dosberthir yr arian i awdurdodau lleol yn ôl fformiwla sy'n seiliedig ar angen.

Dyrannodd Setliad Refeniw a Chyfalaf Terfynol Llywodraeth Leol 2017-18 £4.1 biliwn o arian refeniw ar gyfer llywodraeth leol yng Nghymru. Roedd setliad 2017-18 yn cynrychioli'r cynnydd arian parod cyntaf ers 2013-14. Fodd bynnag, mae'n dal i fod yn doriad mewn termau real mewn arian ar gyfer awdurdodau lleol.

3. Pŵer cymhwysedd cyffredinol

Mae awdurdodau lleol yng Nghymru yn gallu arfer eu swyddogaethau o dan y pŵer 'llesiant' o dan y Ddeddf Llywodraeth Leol (2000). Mae'r pŵer llesiant hwn yn galluogi awdurdodau lleol i weithredu mewn unrhyw ffordd y maent yn credu y byddai'n gwella llesiant economaidd, cymdeithasol neu amgylcheddol eu hardal neu'r bobl yn eu hardal, ar yr amod nad yw'n cael ei wahardd fel arall rhag gwneud hynny gan ddeddfwriaeth arall.

Roedd y Bil Llywodraeth Leol Drafft (2015) yn cynnwys darpariaeth ar gyfer pŵer cymhwysedd cyffredinol. Nid yw'n debygol y bydd y Bil drafft hwn yn mynd yn ei flaen ac mae cynigion diwygio newydd yn cael eu paratoi ar hyn o bryd. Cyflwynodd Deddf Lleoliaeth 2011 bŵer cymhwysedd cyffredinol ar gyfer awdurdodau yn Lloegr.

Mae'r pŵer cymhwysedd cyffredinol yn disodli pwerau llesiant awdurdodau lleol ac yn caniatáu i'r sefydliadau hynny "wneud unrhyw beth y gall unigolion yn gyffredinol ei wneud". Mae yna nifer o gyfyngiadau, er enghraifft ni all yr awdurdod lleol ddefnyddio'r pŵer i godi trethi (y tu hwnt i bwerau cyfredol), ehangu pŵer i greu is-ddeddfau ac mae'r awdurdod wedi'i gyfyngu gan unrhyw beth a waherddir gan statud.

Mae Cymdeithas Llywodraeth Leol Cymru wedi galw am bŵer cymhwysedd cyffredinol i awdurdodau lleol ac yn eu tystiolaeth i'r cynulliad cenedlaethol ynghylch y Bil Llywodraeth Leol drafft, croesawodd ei gynnwys yn y cynigion.

Yn ei lythyr i'r Pwyllgor hwn ynghylch y ddeiseb hon mae Ysgrifennydd y Cabinet dros Gyllid a Llywodraeth Leol yn dweud:

Er mwyn darparu cymorth pellach, rydym yn ystyried y posibilrwydd o gyflwyno pŵer cymhwysedd cyffredinol ar y cyfle deddfwriaethol cynharaf.

4. Darparu nwyddau a gwasanaethau gan awdurdodau lleol a phwerau i fasnachu

Mae Deddf Llywodraeth Leol 2003 (Adran 93 i 98) yn cynnwys darpariaeth i awdurdodau lleol i ddatblygu ffrydiau incwm newydd. Mae'r Ddeddf yn caniatáu i awdurdodau lleol fasnachu drwy sefydlu cwmnïau masnachu awdurdodau lleol lle mae gan awdurdodau bŵer statudol i berfformio'r gwasanaeth sy'n amodol ar fasnachu.

Mae Archwilydd Cyffredinol Cymru a Swyddfa Archwilio Cymru wedi cyhoeddi yn ddiweddar adroddiad ar y defnydd o bwerau awdurdodau lleol i gyflwyno a chynyddu taliadau am wasanaethau. Daeth yr Archwilydd Cyffredinol i'r casgliad:

nad yw awdurdodau lleol ar hyn o bryd yn dilyn pob opsiwn i gynhyrchu incwm oherwydd gwendidau yn eu polisïau ac yn y ffordd y maent yn defnyddio data a gwybodaeth i gefnogi gwneud penderfyniadau.

Mae adroddiad Archwilydd Cyffredinol Cymru hefyd yn canfod bod y Ddeddf Lleoliaeth 2011 wedi darparu datganiad clir o bwerau i awdurdodau lleol yn Lloegr, megis y pŵer cymhwysedd cyffredinol. Mae hyn wedi arwain at fwy o awdurdodau lleol yn nodi cyfleoedd codi incwm a manteisio arnynt. Mae'r pŵer cyffredinol, drwy ganiatáu awdurdod lleol i 'wneud unrhyw beth y gall unigolyn ei wneud', yn caniatáu awdurdodau lleol i fasnachu mewn amrywiaeth ehangach o wasanaethau. Mae awdurdodau lleol yng Nghymru yn gyfyngedig o ran nad ydynt yn gallu masnachu ag unigolion lle mae ganddynt ddyletswydd statudol eisoes i ddarparu'r gwasanaeth i'r unigolyn hwnnw.

Yn ei llythyr mae Ysgrifennydd y Cabinet dros Gyllid a Llywodraeth Leol yn nodi bod gan awdurdodau lleol nifer o offer ariannol ar gael iddynt ar hyn o bryd:

Mae ystod o weithgareddau arloesol yn cael eu cynnal gan awdurdodau ac mae'n bwysig i bob awdurdod ddysgu o'r profiadau hyn ac i fabwysiadu arfer da. Mae'n arbennig o bwysig i awdurdodau i barhau i chwilio am arbedion mewn swyddogaethau gweinyddol fel bod yr adnoddau sydd ar gael yn cael eu sianelu tuag at wasanaethau rheng flaen. Mae angen i awdurdodau sicrhau cydbwysedd rhwng y cyfleoedd ar gyfer cynhyrchu incwm â darparu ar gyfer anghenion eu cymunedau.

5. Ail-gyllido Mentrau Cyllid Preifat

Mae prosiectau Menter Cyllid Preifat (PFI) yn fath o bartneriaeth cyhoeddus-preifat (PPP) a ddefnyddir i ariannu buddsoddiadau cyfalaf mawr. Mae prosiect PFI nodweddiadol yn gyfrifoldeb y sector preifat o ran dylunio ac adeiladu'r ased ac ar gyfer rhedeg yr ased. Mae'r cwmni preifat hefyd yn gyfrifol am godi'r cyllid angenrheidiol i wneud hyn. Mae'r corff sector cyhoeddus yna yn prynu i mewn i wasanaeth, yn hytrach na chaffael ased ac yn talu 'tâl unedol' parhaus. Mae ail-gyllido PFI yn fecanwaith y gall awdurdod lleol ei ddefnyddio i drafod a newid trefniadau cyllido gwreiddiol y prosiect.

Mae Llywodraeth Cymru yn darparu cymorth ariannol ar gyfer elfen gyfalaf cynlluniau PFI a gymeradwywyd yn flaenorol. Mae awdurdodau lleol yn gyfrifol am sicrhau gwerth gorau ar gyfer eu cynlluniau. Yn ei lythyr i'r Pwyllgor hwn, mae Ysgrifennydd y Cabinet yn nodi y bydd Llywodraeth Cymru yn parhau i 'annog' awdurdodau lleol i fynd ar drywydd ail-gyllido PFI a bod llawer o awdurdodau lleol yn gwneud hynny. Mae Trysorlys EM yn casglu data am brosiectau PFI a PFI 2. Mae'r data diweddaraf yn cyfeirio at 2014-15. Mae hyn yn dangos bod yna 28 o brosiectau PFI yn gweithredu yng Nghymru, ac o'r rhain roedd 10 wedi'u caffael gan awdurdodau lleol.

6. Y Comisiwn Annibynnol ar Gyllid Llywodraeth Leol Cymru.

Sefydlwyd Y Comisiwn Annibynnol ar Gyllid Llywodraeth Leol Cymru gan Gymdeithas Llywodraeth Leol Cymru (CLlLC) a'r Sefydliad Siartredig Cyllid Cyhoeddus a Chyfrifyddiaeth (CIPFA). Cafodd ei Adroddiad Terfynol, Cyllid Llywodraeth Leol Cymru, Uchelgais ar gyfer Newid: Anelu'n Uwch, ei lansio ar 24 Mawrth 2016 (mae crynodeb o'r diwygiadau arfaethedig wedi'i amlinellu yn yr Atodiad).

Mae Llywodraeth Cymru wedi nodi y bydd gwaith y comisiwn yn cael ei ystyried fel rhan o'r gwaith diwygio ehangach sy'n cael ei wneud ar hyn o bryd. Mae rhaglen Llywodraeth Cymru ar gyfer llywodraethu; Symud Cymru Ymlaen yn cynnwys ymrwymiad i:

Ddiwygio cyllid llywodraeth leol i wneud cynghorau’n fwy cynaliadwy a hunangynhaliol, gan ddefnyddio canfyddiadau'r comisiwn annibynnol ar gyllid llywodraeth leol a Phanel Llywodraeth Cymru ar Ddyfodol Cyllido.

Pan ofynnwyd iddo am waith y comisiwn annibynnol yn ei dystiolaeth lafar i'r Pwyllgor Cydraddoldeb, Llywodraeth Leol a Chymunedau ym mis Gorffennaf 2016, amlinellodd Ysgrifennydd y Cabinet dros Gyllid a Llywodraeth Leol fod yr adroddiad yn cynnwys rhai 'argymhellion cryf' y byddai'n trefnu eu trafod gyda CLlLC, ond hefyd bod yna rai 'a allai achosi problemau', gan amlygu bod cadw 100% o drethi busnes yn fater o'r fath.

Yn ei lythyr at y Pwyllgor Deisebau dywedodd Ysgrifennydd y Cabinet fod yr adroddiad:

yn gyfraniad defnyddiol at y syniadau ar ddatblygu system cyllid llywodraeth leol sydd yn fwy gwydn.

Gwneir pob ymdrech i sicrhau bod y wybodaeth yn y papur briffio hwn yn gywir adeg ei gyhoeddi.   Dylai darllenwyr fod yn ymwybodol, fodd bynnag, nad yw'r papurau briffio hyn yn cael eu diweddaru na'u diwygio fel arall o reidrwydd i adlewyrchu newidiadau dilynol.